Mae Cynllun Casglu yn fenthyciad di-log * i’ch helpu chi i brynu celf a chrefft gyfoes yng Nghymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig benthyciadau rhwng £ 50 a £ 5,000 i bobl sy’n dymuno prynu un darn o gelf neu weithiau celf lluosog gan artistiaid byw yng Nghymru. Gellir gweld telerau ac amodau’r cynllun hwn trwy’r ddolen isod.
Manylion y benthyciad
Mae benthyciadau’r Cynllun Casglu yn gytundebau credyd di-log, a gall preswylwyr y Deyrnas Unedig fenthyg rhwng £50 a £5,000 tuag at gost darn neu ddarnau o gelf a chrefft gan artistiaid byw yng Nghymru.
- Dim ond 10 y cant o flaendal sydd angen i chi dalu ymlaen llaw
- Bydd benthyciad y Cynllun Casglu yn cael ei ad-dalu mewn rhandaliadau misol drwy ddebyd uniongyrchol
- Y cyfnod mwyaf ar gyfer ad-dalu benthyciad Cynllun Casglu yw 12 mis
- Yr ad-daliad misol lleiaf yw £10
- Fe allwch chi brynu sawl darn o waith celf gan sawl oriel hyd at uchafswm o £5,000 o drothwy cyfleuster credyd
- Mae benthyciadau ar gael i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n 18 oed neu hŷn ac sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n gallu gweithredu Debyd Uniongyrchol.
- Fel arfer, caiff benthyciadau’r Cynllun Casglu eu cymeradwyo o fewn 7-10 niwrnod
*Cyfradd ganrannol flynyddol 0% cynrychiadol. Canllaw cyffredinol yw’r nodiadau hyn ac nid ydynt yn ffurfio unrhyw gontract na chynnig.
Cysylltwch â ni i gael gwybod sut i brynu gan ddefnyddio Cynllun Casglu – RVater@sirgar.gov.uk
Sut mae’n gweithio | Cyngor Celfyddydau Cymru