Carnifal
£25.00
Cynhyrchwyd gan Huw Alden Davies ac wedi’i gynllunio gan yr artist/curadur arobryn Abby Poulson, mae Carnifal yn dechrau drwy eiriau Dr Paul Cabuts. Mae Paul yn enwog am ei gyfraniad i Brosiect y Cymoedd, sy’n gosod y naws wrth i ni gychwyn ar daith drwy hanes gweledol carnifal y Tymbl. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys gwaith deg ffotograffydd, gan gynnwys Huw Alden Davies, Peter Finnemore, Mohamed Hassan, Dan Staveley, Abby Poulson, Jason Thomas, Jaz Guise, Sal Nordan, Dorian Caba a Gwyn Edwards. Mae hefyd yn cynnwys delweddau o nifer o archifau personol. Mae Carnifal yn ddogfen sy’n dathlu cymuned a chydweithredu mewn cyfnod o ymraniad a phegynnu gwleidyddol. Mae’n herio ein syniadau o hunaniaeth, diwylliant a chyflwr cymdeithasol ac mae’n ein hatgoffa o’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae hefyd yn ein hatgoffa am beth y gall ffotograffiaeth fod, a sut y gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng creadigol, ac yn bwysicach, llais.
1 in stock