Carnifal

Carnifal

£25.00

Cynhyrchwyd gan Huw Alden Davies ac wedi’i gynllunio gan yr artist/curadur arobryn Abby Poulson, mae Carnifal yn dechrau drwy eiriau Dr Paul Cabuts. Mae Paul yn enwog am ei gyfraniad i Brosiect y Cymoedd, sy’n gosod y naws wrth i ni gychwyn ar daith drwy hanes gweledol carnifal y Tymbl. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys gwaith deg ffotograffydd, gan gynnwys Huw Alden Davies, Peter Finnemore, Mohamed Hassan, Dan Staveley, Abby Poulson, Jason Thomas, Jaz Guise, Sal Nordan, Dorian Caba a Gwyn Edwards. Mae hefyd yn cynnwys delweddau o nifer o archifau personol. Mae Carnifal yn ddogfen sy’n dathlu cymuned a chydweithredu mewn cyfnod o ymraniad a phegynnu gwleidyddol. Mae’n herio ein syniadau o hunaniaeth, diwylliant a chyflwr cymdeithasol ac mae’n ein hatgoffa o’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae hefyd yn ein hatgoffa am beth y gall ffotograffiaeth fod, a sut y gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng creadigol, ac yn bwysicach, llais.

Manyleb

Deunyddiau: llyfr clawr caled
Dimensiynau: Tua. 29 x 22 cm
Collection:

2 in stock

Am yr Artist

Huw Alden Davies

Wedi'i eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ffotograffydd dogfennol Huw Alden Davies yn archwilio llinellau naratifau gweledol ac ysgrifenedig. Wedi'i hudion gan yr un ffrâm a'i gallu i adrodd y straeon mwyaf mawreddog, mae Davies yn troi ei sylw at bynciau a anwybyddir i raddau helaeth. Mae hon wedi weld ei luniau wedi'u dewis gan y ffotograffydd enwog Magnum Martin Parr, Cymdeithas y Ffotograffwyr, yr Amgueddfa Genedlaethol, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig a Ffotogallery (yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol), mae ei waith wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru'n rhyngwladol, gan gynnwys ymweliad blaenorol ag India fel rhan o ddirprwyaeth yn Jaipur.
De